Jobs and Volunteering

Symud tuag at Waith

useful skillsMae'n haelodau sy'n mynychu ein cyrsiau yn cymryd camau tuag at waith. Trwy gefnogaeth a chyngor unigol maent yn gallu cyrraedd nodau ac ennill cymwysterau cydnabyddedig. Roedd Cyreniaid Cymru a'u haelodau yn falch o dderbyn pedwar gwobr gan y NIACE Dysgu Cymru yn 2005. Ennillodd aelodau wobrau unigol a cydnabuwyd gwaith dau i'n tiwtoriaid.
Hyfforddiant a Gyrfaoedd

Bydd mewnfuddsoddiad sylweddol ym Mae Abertawe, gan gynnwys datblygiad SA1 a'r Morfa newydd yn cynyddu'r nifer o swyddi ar gael yn y rhanbarth. Rydym eisiau i ddefnyddwyr ein gwasanaethau i gael budd o'r datblygiadau hyn, ar y cyd gyda'n mentrau gwaith ein hunain, i dorri cylchred tlodi ac amddifadedd sy'n ynghlwm â diweithdra tymor hir.

Cydnabyddwn mai'r unig ffordd i gyflawni hyn yw drwy partneriaeth a chefnogaeth, ac rydym yn adeiladu cysylltiadau gyda'r diwydiant adeiladu, y diwydiant morol, man werthwyr lleol, cyflogwyr y sector gyhoeddus a'r drydedd sector i gynyddu'r cyfleoedd i'n defnyddwyr i'r eithaf.

Bydd cyfleoedd gwaith, profiad gwaith ac hyfforddiant yn cael eu hysbysu drwy ein safleoedd gwe Swanseabay Training and Employment.

 

Cyrenians Cymru, Prif Swyddfa, 124, Heol Walter, Abertawe SA1 5RG
Ffôn - 01792 467926
Ffacs: 01792 464978
cyrenians@cyrenians.co.uk
© Cyrenians 2007 - Registered Charity / Elusen Cofrestredig No. 503535