Our Projects

Mae amrywiaeth ac ystod y gwasanaethau a gynnigir gan ein prosiectau yn dyst i'n hymroddiad i'n cymuned.

Cipolwg ar ein Prosiectau

Dragon Arts at Morfa Rd Cyrenians Centre on High Street Resarec at the Hafod Supporting people accross Swansea Celfi Shop and Gallery
  • Celfi gallery and Shop
    • Cynllun Mân-werthu ar gyfer gwaith a greir yn ResaRec a Chanolfan y Ddraig, a Chanolfan Hyffordiant Mân-werthu.

 

Benefits

 

Dragon Arts and Learning Centre
Cwmpasiad Cymdeithasol trwy Gelfyddyd a Dysg
European Social Fund Logo

Cefnogir gan Swyddfa Nawdd Y Gymuned Ewropeaidd

 

Mae Canolfan Celfyddydau'r Ddraig yn darparu gweithgareddau a chyfleoedd celfyddydol ac addysgol am ddim i unrhyw un sydd wedi bod yn ddigartref neu wedi eu heithrio yn gymdeithasol ac sydd o bosib yn cael trafferth cael mynediad i addysg prif ffrwd.

Dragon Arts Centre Building

Gwneir hyn trwy amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau yn y ganolfan a thrwy ymweliadau.

Mae'r awyrgylch anffufriol yn annog pobl i fwynhau a chymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol ac addysgiadol gyflymdra ac ar gyfnodau sy'n eu siwtio hwy.

Addasir y gweithdai i anghenion a lefel gallu'r aelodau. Gall aelodau weithio tuag at gymwysterau o dan eu pwysau eu hunain mewn amgylchedd creadigol a chroesawgar. Nid yn unig y gallasant flasu gymaint neu cyn lleied o gyrsiau ac maent yn dymuno, mae ganddynt rôl bwysig yn natblygiad y prosiect ei hun.

Photographic Group OutsideGall diddordeb anffurfiol mewn un gweithgaredd arwain at ymrwymiad tymor hir mewn sawl. Mae Canolfan y Ddraig wedi ei chydnabod gan Rhwydwaith Colegau Agored Cymru yn ddarparwr modiwlau , sydd wedi galluogi sawl aelod i ennill eu cymwysterau cydnabyddedig cyntaf. Cydnabuwyd Cyreniaid Cymru gan ELWA yn 2004 fel darparwr ILA Wales mewn Gwybodaeth Technoleg a Dylunio Celfi. Caiff ein haelodau gyfleoedd rheolaidd i arddangos eu gwaith mewn Orielau ar draws y Ddinas.

 

Am fwy o wybodaeth ewch i'n safle gwe.



Cyrenians Community Resource Centre

 

European Social Fund Logo

Cefnogir gan Swyddfa Nawdd Y Gymuned Ewropeaidd

Inside the centreMae Canolfan Cymunedol y Cyreniaid yn brosiect wedi ei wobrwyo sy'n cynnig cymorth iechyd, bwyd rhâd, cyngor a hyfforddiant i bobl difreintiedig yn y dydd, a safle i'r grwpiau o'r gymuned i'w defnyddio yn y nôs.

Wedi ei ariannu gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd a Chronfa Treftadaeth y Loteri, cynigir gofal iechyd sylfaenol mewn partneriaeth a Cyreniaid a Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe. Mae Nyrs arbenigol ar y safle bob bore, a cysylltir y ganolfan a meddygfa lleol.

Ceir bwyd am bris rhad wedi ei sybsideiddio yng Nghaffe'r Dylluan a Parot yn ystod yr wythnos ac ystod o weithgareddau a hyfforddiant. Mae'r Cooperatif y Naw Moronen “Nine Carrots Food Cooperative” yno yn yr wythnos hefyd.

Mae'r ganolfan eisoes wedi sefydlu ei hun fel adnodd allweddol i'r gymuned yn Abertawe, gyda phwyslais ar fwyta iach ac ymrwymiad i'r gymuned. Bydd y llesiant i iechyd carfan o gymuned Abertawe nad oeddynt cynt yn gallu cael mynediad i wasanaethau prif-ffrwd yn arwyddocaol a sylweddol.

Bydd gwefan y ganolfan yn fyw yn fuan. Yn y cyfamser gallwch gysylltu â ni fel a ganlyn

Ffôn - 01792 470127

Ebost

Canofan Cymuned Cyreniaid
D/O Cyrenians Cymru,
124 Walter Rd
Abertawe
SA1 5RG

* Mae'r Ganolfan wedi ennill Gwobr AFAL (Awards For Food Action Locally ) am eu gwaith o hybu bwyta iach yn y gymuned yn Abertawe.
Mae Asiantiaeth Safonnau Bwyd Cymru yn cynnal y gwobr blynyddol hon er mwyn cydnabod unigolyn neu dîm am eu cyfraniad i fentrau iechyd a maeth lleol sy'n cael effaith bositif ar arferion bwyta trigolion y gymuned y maent yn gweithio ynddi.

Dilynwch y ddolen hon ar gyfer mwy o wybodaeth am y wobr AFAL.

 

Nôl i'r Top


Cyrenians Community Resource Centre

ResaRec logo
Resettlement and Recycling

Gwastraffir miloedd o gelfi a dodrefn trwy eu taflu i ffwrdd. Bwriad RES-A-REC (Resettlement and Recycling) yw gwneud defnydd da i'r dodrefn hynny. Mae'r prosiect yn casglu dodrefn sy'n cael ei noddi gan bobl yn y gymuned leol. Caiff y dodrefn eu trwsio a'i lanhau os oes angen a'i roi i gynorthwyo pobl sy'n dechrau cartref newydd.

ResaRec buildingCefnogir y cynllun gan y Gronfa Adnewyddi Gymunedol, ac mae'n cynnig hyfforddiant ar sut i adnewyddu a thrwsio dodrefn i'r gwirfoddolwyr.

Yn y 6 mis cyntaf rhoddodd y cynllun gymorth i 57 o bobl ail sefydlu eu hunain mewn cartref.

Ymwelwch â'n gwefan www.resarec-cyrenians.co.uk

Nôl i'r Top

Celfi Gallery and Shop

 

Celfi Gallery and Shop Logo
Crefftau yn y Gymuned
European Social Fund Logo

Cefnogir gan Swyddfa Nawdd Y Gymuned Ewropeaidd

Pwrpas y prosiect hwn yw i alluogi aelodau Canolfan y Ddraig i arddangos a gwerthu eu gweithiau crefft ac i hybu gwaith ResaRec, sy'n creu celfi o ddefnyddiau wedi eu hailgylchu.

GlasswareMae Siop ac Oriel Celfi yn cael ei redeg gyda help gwirfoddolwyr o'r ddau brosiect a bydd yn gweithio mewn partneriaeth a sefydliadau eraill sy'n cynorthwyo pobl yn ôl i fyd gwaith a hyfforddiant megis SCVS, Prosiect WISE, Prosiect Genesis, Prosiect A4E, Canolfan Dydd Cwmbwrla a Coleg Abertawe.

CardsCaiff ein gwirfoddolwyr gyfle i ennill cymwysterau cydnabyddedig yn OCN Cymru mewn Man Werthiant, Sgiliau Cyfathrebu, Mentoriaeth, Gwasanaethau Cwsner, Gwirfoddoli Positif ac adeiladu hyder; tra'n darparu safon uchel o hyfforddiant, cefnogaeth a goruchwyliaeth.

Nôl i'r Top


Cyrenians Community Resource Centre

Mae'r tim cefnogaeth tenantiaeth yn gweithio mewn partneriaeth a'r awdurdodau lleol i gynorthwyo tenantiaid i gynnal eu tenantiaethau.

Cefnoga'r tim bobl ifanc a'r henoed gydag ystod eang o anghenion.

Pobl Ifanc

Mae nifer o'n pobl ifanc yn cael llety gan Dinas a Sir Abertawe o dan y cynllun Cefnogi Pobl. Gallasant ddisgwyl cymorth i sicrhau y bydd eu tenantiaeth yn llwyddiant, a chymorth i chwilio am gyfleoedd hyfforddi / addysgol, a gweithgareddau cymdeithasol, celfyddydol a chwaraeon.

Henoed

Gweler yr adran ar Ty Betty Williams

Nôl i'r Top


Cyrenians Cymru, Prif Swyddfa, 124, Heol Walter, Abertawe SA1 5RG
Ffôn - 01792 467926
Ffacs: 01792 464978
cyrenians@cyrenians.co.uk
© Cyrenians 2007 - Registered Charity / Elusen Cofrestredig No. 503535