accommodation

Cefnogi PoblMae cefnogi pobl wedi bod yn nod craidd i'r Cyreniaid o'r dechrau. Ar y cyfryw, defnyddwyr ein gwasanaeth yw'r pobl mwyaf anodd i'w cyrraedd ond y rhai mwyaf mewn angen. Mae gan nifer ohonynt fywydau ansefydlog, problemau iechyd corfforol neu meddyliol, ac anawsterau gydag alcohol a chyffuriau. Mae Cyreniaid Cymru yn gweithio'n galed i hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol, gan roi'r cymorth sydd angen ar bobl i newid cyfeiriad a chyrraedd nodau mae'r rhan fwyaf ohonom yn cymryd yn ganiataol.

Llety

Resarec Collecting MaterialsMae'r llety 13 gwely yn Heol Paxton yn un o wasanaethau mwyaf sylfaenol Cyreniaid Cymru
Rhedir y llety mewn partneriaeth a Cymdeithas Tai Teuluol. Ariannir gan y Cynllun Cefnogi Pobl gyda chysylltiadau clos a'r tim Cefnogaeth Tenantiaeth a'r Gwasanaeth Digartrefedd Ieuenctid.

Mae'r staff ar gael 24 bob dydd, a threfnir digwyddiadau yn amrywio o dripiau pysgota i nosweithiau fideo. Ni chaniateid alcohol yn y llety. Cynigir cyngor arbenigol iddynt a chymorth ymarferol ynglŷn â ail sefydlu eu hunain. Mae yn ofyn mawr am le yn y llety, a chan amlaf caiff unrhyw ystafell wag ei lenwi mewn ychydig oriau.

Ty Betty WilliamsMae gan Ty Betty Williams pedwar fflat "bed-sitter" gyda lolfa gymunedol a gardd. Caiff y biliau dwr, trydan, gwres, a unrhyw fydd-daliadau tai eu gweinyddu gan staff y prosiect.

Rhedir y prosiect yma ar gyfer pobl dros 50 mlwydd oed ar-y-cyd gyda 'Help The Aged'. Mae'n rhan o Gynllun Byw gyda chefnogaeth Sant Matthew.

Mae aelod o staff yno ar ddydd Llun i Dydd Gwener, 9.00 am hyd at 5.00 pm. Caniateir Alcohol yn holl adeiladau'r cynllun. Caiff y sawl sy'n aros yn yr hostel ystafell, allwedd, brecwast a phryd nos.

Pan mae pobl yn fwy parod i ddechrau byw'n fwy annibynnol gallant symud i'r fflatiau un gwely yng nghwrt Sant Mathew lle byddant yn parhau i dderbyn cefnogaeth i'w arwain nhw at fyw'n fwy annibynnol.


Cyrenians Cymru, Prif Swyddfa, 124, Heol Walter, Abertawe SA1 5RG
Ffôn - 01792 467926
Ffacs: 01792 464978
cyrenians@cyrenians.co.uk
© Cyrenians 2007 - Registered Charity / Elusen Cofrestredig No. 503535