
Mae Canolfan Adnoddau Cymunedol y Cyreniaid wedi ennill clod a gwobrau am ei dulliau arloesol o ddelio a ffactorau iechyd a dull bywyd sy'n gallu atal pobl rhag cymryd cyfleoedd hyfforddiant a gwaith.
Ystyrir yn "brosiect goleudy" gan y Swyddfa Nawdd Ewropeaidd a'r Gronfa Loteri Treftadaeth sydd wedi ein cefnogi'n ariannol. Mae hefyd wedi derbyn cryn sylw gan wleidyddion fe model o sut i adfywio hen adeiladau ar gyfer defnydd y gymuned.
Mae dros 650 o ddefnyddwyr dydd wedi ymuno ers i'r ganolfan agor, gan fanteisio ar fwyd o'r caffe iach, cymorth a chefnogaeth feddygol, cyngor ar sut i gyrraedd gwasanaethau eraill, cymryd rhan mewn gweithgareddau fel ioga, dosbarthiadau coginio a hyfforddiant Gwybodaeth Technegol a mentrau fel y " 9 Carrots Food Co-operative".
Rho'r uned feddygol yn y ganolfan fynediad i ofal iechyd i bobl sy'n agored i niwed a'r difreintiedig. Yn aml iawn nid yw pobl ddigartref wedi cofrestri a doctor, gan adael i gyflyrau meddygol difrifol i ddilyn eu cwrs heb ataliaeth.
Mae'r ganolfan yn cynnig y cyfle i ymweld â doctor a nyrs a meddyg traed, a gallant dderbyn cyngor ar iechyd cyffredinol, maeth ac os oes angen eu cyfeirio i ofal arbenigol.
.