
Cefnogir gan Swyddfa Nawdd Y Gymuned Ewropeaidd
Ers 1973, mae Cyreniaid Cymru wedi cynorthwyo y mwyaf defreintiedig mewn cymdeithas. Mae'r rhain yn cynnwys pobl sydd wedi dioddef digartrefedd, pobl sydd yn byw bywydau ansefydlog, pobl sydd â llety on sy'n dioddef unigedd ac sydd wedi eu heithrio o gymdeithas prif-ffrwd.
Rydym wedi dod ymhell ers ein dechreuadau bach, a bellach rydym yn cynnig gwasanaethau sy'n cwmpasu llety, iechyd, hyfforddiant, swyddi, ailgylchu ac adfywhad cymdeithasol.
Gallwch gael gwybodaeth pellach am ein prosiectau drwy'r dolenni ar y chwyth. Mae gennym safleoedd ar draws Abertawe o'r Mwmbls i'r Hafod a byddwn yn agor prosiectau mewn ardaloedd eraill cyn bo hir.
Dibynna'r elusen yn drwm ar gefnogaeth a haelioni diflino pobl Abertawe a De-orllewin Cymru. Mae'r rhoddion o gelfi, arian ac amser, rhoddion Gwasanaethau Cynhaeaf a Nadolig yn tystio fod Abertawe yn gymuned dosturiol. Cyhoedda Cyfeillion y Cyreniaid cylchlyththyr rheolaidd gyda'r newyddion diweddaraf, ac maent yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol achlysurol. Ceir mwy o wybodaeth ar eu safle gwe.
Gallwch ddanfon cyfraniad ariannol ar y we gan ddefnyddio ein gwasanaeth Paypal isod
Ar y traeth ym mae Abertawe gyferbyn a Neuadd y Brangwyn.
Lluniaeth ysgafn ar gael.
Os hoffech chi a'ch mudiad gymryd rhan, yna cysylltwch â
Lois Woodward yng Nghanolfan Cymunedol y Cyrenianiaid, ar 01792 470127 neu activities@cyrenians.co.uk.
Canolfan Cymunedol y Cyreniaid
Bob dydd Llun 10 - 1
Bydd Charlotte Lanceley, Gweithiwr Datblygu Prosiect Cymunedau Gyntaf trwy SCVS ar gyfer eich ardal chi yn cynnal “Siop Wirfoddoli” yng Nghanolfan Cymundeol y Cyreniaid. Bydd y “Siop Wirfoddoli” yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli ehangach sy'n gymwys i chi.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Charlotte Lanceley yn SCVS ar 01792 544009 neu dewch i'r ganolfan ar fore dydd Llun. Gallwch ymweld â safle gwe y ganolfan
Mae Menter Hunan Gymorth Abertawe yn trefnu cyfle misol i bobl sy'n niweidio eu hunain i ddod am gyngor a chymorth
Dydd Iau cyntaf y mis gan ddechrau ar
Dydd Iau 3edd o Orffennaf 10.00am-12.00pm
yng Nghanolfan Cymunedol y Cyreniaid, tu ôl i Eglwys San Matthews, Stryd Uchaf, Abertawe.
Ymholiadau i Swansea Mind - 01792 642999
Mae Cyreniaid Cymru Wedi ennill Gwobr AFAL (Awards For Food Action Locally ) am eu gwaith o hybu bwyta iach yn y gymuned yn Abertawe.
Mae Asiantiaeth Safonnau Bwyd Cymru yn cynnal y gwobr blynyddol hon er mwyn cydnabod unigolyn neu dîm am eu cyfraniad i fentrau iechyd a maeth lleol sy'n cael effaith bositif ar arferion bwyta trigolion y gymuned y maent yn gweithio ynddi.
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer mwy o wybodaeth am y wobr AFAL.
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer Datganiad Wasg yr Asiantaeth Safonau Bwyd