Learning and Training

Bwriad y Cyreniaid yw adfer y cyfleoedd i bobl a'i dychwelyd hwy i fynwes cymdeithas. Nid dimond lloches a chysgod, ond cynnig y pethau sy'n rhoi ansawdd i fywyd. Rhywle i fynd i gyfarfod a ffrindiau, i fwyta bwyd iach, cyfle i ddysgu sgiliau newydd. lle diogel a celfi cyfforddus. Rydym am gynnig y gorau i'r sawl sydd wedi dioddef y gwaethaf.

Canolfan Celfyddydau a Dysg y Ddraig

Basic SkillsMae Canolfan Celfyddydau'r Ddraig yn darparu gweithgareddau a chyfleoedd celfyddydol ac addysgol am ddim i unrhyw un sydd wedi bod yn ddigartref neu wedi eu heithrio yn gymdeithasol ac sydd o bosib yn cael trafferth cael mynediad i addysg prif ffrwd.

Gwneir hyn trwy amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau yn y ganolfan a thrwy ymweliadau.

Mae'r awyrgylch anffufriol yn annog pobl i fwynhau a chymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol ac addysgiadol gyflymdra ac ar gyfnodau sy'n eu siwtio hwy.

Addasir y gweithdai i anghenion a lefel gallu'r aelodau. Gall aelodau weithio tuag at gymwysterau o dan eu pwysau eu hunain mewn amgylchedd creadigol a chroesawgar. Nid yn unig y gallasant flasu gymaint neu cyn lleied o gyrsiau ac maent yn dymuno, mae ganddynt rôl bwysig yn natblygiad y prosiect ei hun.

Gall diddordeb anffurfiol mewn un gweithgaredd arwain at ymrwymiad tymor hir mewn sawl. Mae Canolfan y Ddraig wedi ei chydnabod gan Rhwydwaith Colegau Agored Cymru yn ddarparwr modiwlau , sydd wedi galluogi sawl aelod i ennill eu cymwysterau cydnabyddedig cyntaf. Cydnabuwyd Cyreniaid Cymru gan ELWA yn 2004 fel darparwr ILA Wales mewn Gwybodaeth Technoleg a Dylunio Celfi. Caiff ein haelodau gyfleoedd rheolaidd i arddangos eu gwaith mewn Orielau ar draws y Ddinas.

 

Cyrenians Cymru, Prif Swyddfa, 124, Heol Walter, Abertawe SA1 5RG
Ffôn - 01792 467926
Ffacs: 01792 464978
cyrenians@cyrenians.co.uk
© Cyrenians 2007 - Registered Charity / Elusen Cofrestredig No. 503535