the future

Hyd yn hyn mae gwaith y Cyreniaid wedi canolbwyntio ar oresgyn atalfeydd sy'n gysylltiedig a thlodi; digartrefedd, iechyd gwael, dibyniaethau, ynysiad a sgiliau isel.

Cam nesaf yr elusen yw i ddatblygu ein prosiectau i alluogi pobl i ddod o hyd i gyrchu gwaith. Mae De-Orllewin Cymru yn profi newid ac adfywiad sylweddol, ac rydym eisiau i'r bobl sy'n defnyddio ein prosiectau ni i fanteisio ar hyn yn yr un modd a'r cyhoedd cyffredinol.

Felly, rydym yn bwriadu datblygu hyfforddiant sgiliau, mentrau gwaith, partneriaethau a chysylltiadau gyda chyflogwyr lleol i greu cyflogaeth cynaliadwy ar gyfer pobl sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir. Bydd cefnogaeth y gymuned busnes, mudiadau statudol a'r gymuned gyffredinol yn hanfodol.

Mae ein degawdau o brofiad o gynnig cefnogaeth i'n haelodau mwyaf difreintiedig ein cymuned yn ein gosod mewn sefyllfa gryf i sicrhau y caiff pobl gymorth ar bob cam o'u taith.

 

Swansea Bay Training

Bydd mewnfuddsoddiad sylweddol ym Mae Abertawe, gan gynnwys datblygiad SA1 a'r Morfa newydd yn cynyddu'r nifer o swyddi ar gael yn y rhanbarth. Rydym eisiau i ddefnyddwyr ein gwasanaethau i gael budd o'r datblygiadau hyn, ar y cyd gyda'n mentrau gwaith ein hunain, i dorri cylchred tlodi ac amddifadedd sy'n ynghlwm â diweithdra tymor hir.

Cydnabyddwn mai'r unig ffordd i gyflawni hyn yw drwy bartneriaeth a chefnogaeth, ac rydym yn adeiladu cysylltiadau gyda'r diwydiant adeiladu, y diwydiant morol, man werthwyr lleol, cyflogwyr y sector cyhoeddus a'r drydedd sector i gynyddu'r cyfleoedd i'n defnyddwyr i'r eithaf.

Bydd cyfleoedd gwaith, profiad gwaith a hyfforddiant yn cael eu hysbysu drwy ein safleoedd gwe Swanseabay Training and Employment


Cyrenians Cymru, Prif Swyddfa, 124, Heol Walter, Abertawe SA1 5RG
Ffôn - 01792 467926
Ffacs: 01792 464978
cyrenians@cyrenians.co.uk
© Cyrenians 2007 - Registered Charity / Elusen Cofrestredig No. 503535