
O dan y cynllun REVS rydym wedi agor Oriel Grefft Gyfoes yn Abertawe sy'n gwerthu nifer o'r nwyddau safonol a grëir yn ResaRec a Chanolfan y Ddraig.
Mae cyfryw helaeth y gweithiau crefft wedi eu creu o ddefnyddiau sydd wedi eu hailgylchu, menter unigryw sydd wedi ennyn cryn ddiddordeb o'r cyfryngau lleol a'r BBC. Nid yn unig mae'n le i siopa heb euogrwydd(!) , a dod o hyd i anrhegion Nadolig a Phen-blwydd,mae'n brosiect sy'n rhedeg hyfforddiant manwerthu o dan y Rhwydwaith Colegau Agored (Open College Network Wales).
Cynllun dodrefn cymunedol y Cyreniaid yw Res-a-Rec, wedi ei leoli yn yr Hafod. Mae'r prosiect yn dod â budd uniongyrchol i bobl sydd wedi dioddef digartrefedd, i'r amgylchedd ac i'r gymuned ehangach.
Enillodd y prosiect wobr lefel dau y Ddraig Werdd am ei gyfraniad i'r amgylchedd a caiff ei gynnwys ar y SWANSEA GREEN MAP. Ystyr Res-a-Rec yw Resettlement and Recycling. Cesglir eitemau o dai y cyhoedd (gan gynnwys oergelloedd, rhewgelloedd ac offer trydanol cartref), ei drwsio os oes angen a'i arddangos yn y warws. Caiff yr eitemau sy'n cael eu dewis eu dosbarthu yn ddyddiol gan ein staff yn y faniau.